Y Seler
Cornel y Plonc
(Y cerddi hyny, bellach, a ddiarddelwyd
gan y bardd.
Efallai y byddai ambell berson megis Tony Bianchi yn mynu rhoi'r cyfan o waith y bardd yn y Seler!
Yr Actor (Cymru'r Plant, Chwefror 1972)
Trychineb Wedi'r Trai (Y Faner, 1973)
Gobaith (Y Faner, 4 Ebrill, 1975)
Yr Wylan (Barn, Ebrill 1976)
Marwnad Emyr Lewis (Llythyr heb ei gyhoeddi, 1976)
John Jenkins (Barddas, Rhagfyr 1984)
Mae 'Di Canu! (Cyhoeddwyd yng nghyfrol goffa Jennie Eirian,
sef 'Cofio' )
Mam (1979; Gwyl Gerdd Dant Dinbych)
Mewn Byd Heb Ryfeloedd (Y Faner, 8 Mai, 1985)
Hunllefain (7 Ionawr, 1991; Barddas, Chwefror, 1991)
Deffra Seithenyn (Graffiti HTV, Medi 1989, Y Bedol, Tachwedd 1990)
Rhyfeddod! (Barddas, Ebrill 1992)
George Thomas (ddiwrnod ei farwolaeth)
I'r
Cyhoeddwr Hwnw (Ar y we; 2000)
Yr Actor
Ddoe - mewn cwmni actio -
Roedd o mewn carchar llwm
Tu ôl i'r barau duon
A'r cerrig llwydion trwm.
Ond heddiw mae o'n frenin
Ar Asia fawr i gyd,
Ei ddynion ydy'r dewraf
O filwyr yr holl fyd.
A fory bydd yn actio
Hen glown â bochau coch
Neu sipsi bychan tenau
Yn bwyta cibau'r moch.
Ni hoffwn fod yn actor
Yn actio pob rhyw ddyn;
Ni fyddai gennyf amser
I fod yn fi fy hun.
Trychineb Wedi'r Trai
Perfedd nos - dyfnder yr anfeidrol.
Tywyllwch
heb olau lleuad i ymbalfalu drwyddo
a'i droi yn feidrol, bas.
Ond yna,
ar orwel amser,
mae'r haul yn araf godi
y goleuni'n deffro
a seren unig yn herio'r dydd;
glaswellt yn swatio dan fantell denau
y bore amrwd
yn nhrwmgwsg bregus y munudau prin.
Cilia'r tarth
oddi ar wyneb y meysydd
gan adael enfys o obaith
ar y dafnau gwlith.
Deffrodd natur
i fyw eto
hunllef halogiad
cymynrodd dyn.
Gobaith
Craith erchyll a'i hagrwch cain -
Crych anobaith ar ol drain,
Brath y bicell yn agendor coch
A rhwnc angau yn ddistawrwydd croch.
Cenedl yn ceulo fel Crist ar Groes
A'i hiaith yn amdo i greithiau'r oes.
Mae cistfaen fenthyg yn aros y celain
Ac un maen mud yn adlef i'r llefain.
Ond wedi'r galar daw'r trydydd dydd
A'i fywyd newydd, a'i newydd ffydd.
Rhown heibio anobaith - ni fydd yn hir
Cyn gwelwn ddefro y blagur ir.
Yr Wylan
(Cyhoeddwyd yn Barn; un o'r englynion cyntaf i'r bardd hwn
ei gyhoeddi)
Mor glaerwyn dy benwynni - yr ellyll
Ar rwyllog glogwyni.
Wynned hen a luniwyd di
O'r halen yn yr heli?
Cywydd Dychan Emyr Goch, 1976
(Cywydd dychan rhwng Emyr Lewis a
Robin Llwyd ab Owain
pan oedd y ddau yn las-lanciau.
Danfonodd Robin y cywydd canlynol at Emyr:
Marw wnaeth ein Hemyr ni,
Ni allaf fyw o'i golli!
Mae Gwalia am ei galon,
O, mor brudd yw'r marw, bron!
Hwn y coch reit o'r cychwyn
Ond fel saeth fe ddaeth yn ddyn
A llunio ambell linell
O Wlad Gaul ni chlywyd gwell.
Emyr? Nid ydyw yma,
Hen fan goch aeth fewn i'w gar
A'i yrru mewn cynddaredd
I'r byd y tu draw i'r bedd...
Emyr, O dywed imi,
Ai'r bedd yw dy ddiwedd di?
A fwyti y pryfetach?
Ai da cynghanedd dy ach?
Tybed beth yw'r atebion
Arwr dyn tu draw i'r don?
Ar hast, anfon air drwy'r hin
Yr Abad.
Hwyl fawr,
Robin.
Atebodd Emyr yntau gyda'r cywydd canlynol:
John Jenkins
(Eilwaith yng Ngharchar y Sais)
Rhoed iddo i wario'n wirion - ei febyd
Fel rhyw fab afradlon;
Bu hen friw yn byw'n y fron,
Fe drig eilwaith drwy'r galon.
Ffoi o'r hil heb ffarwelio - na rhoi trem
Ar y traeth digyffro,
Ar hir daith eilwaith aeth o,
Eilwaith ni fedrwn wylo.
Gwibiodd ar briffordd gobaith - a gyrru
I gaer o ddichellwaith;
Yn hwyr y dydd aeth ar daith
Wylaf, ni wylaf eilwaith.
I ddwy flynedd fileinig - o oedi
Dedfrydwyd pendefig
A gwn na chaiff fory gig
Na gwaed run llo pasgedig.
Ni'r afradlon estroniaid - a welaist,
Ni yw'r hil ddilygaid;
Rhoddaist law i'r llaw'n y llaid
A dihunaist ei henaid.
Hir-wynebu'r anobaith - yw dy ran,
Ond a'r Wawr ar ymdaith.
Af innau'n awr ar fy nhaith,
Wylaf ac wylaf eilwaith.
Mae 'Di Canu!
(Cerdd i blant oed cynradd)
Gadewch eich nag a dewch yn awr
I brofi ias y sgubor fawr:
Dau lygad tywyll cudyll coch
A'i acen gras yn canu'n groch.
Goruwch ei ben - dwy regen yr yd
Anwyla draw eu ffidlau drud
A buan dawr i ben y das
Gywynen ber i ganu bas.
Mae'r wydd dew, dew, sydd mor ddi-don
Yn cosi'i phig a'r sacsaffon;
A golau'r ddawns, drwy siawns bid siwr,
Yw deg magien hen ddi-stwr.
Ar lorpiau'r cart - tri ffwlbart ffol
A'u daws pync-roc a'u roc-a-rol,
Ac ar ryw drawst yn curo'r drwm -
Hen loyn byw a chwilen bwm.
Ond ust! Dim smic! Daeth gwaed y wawr!
Ar ddol mae ol y llwynog mawr!
A'u diwedd hwy fydd diwedd hynt
Y gwyr a aeth i Gatraeth gynt.
Mam
(Canwyd yn yr Wyl Gerdd Dant yn Ninbych 1979.)
Dyfynwyd nifer o'r llinellau hyn ar gerig beddau led-led Cymru
dros y blynyddoedd.
Gobeithiwn ychwanegu lluniau ohonynt ar y safle cyn hir!
Cyhoeddwyd hefyd gan y bardd ar ffurf 'cerddlun'.
Ei gwên yw'r awel gynnes - a
gwyn fyd
ei gwên fach, ddirodres;
yn ei grudd mae cochni gwres
y wên sy'n hyn na hanes.
Gwnewch i'r angylion farddoni
- a'i roi
ar awen da Vinci,
urddwch y wawr â'r cerddi -
a dyna Mam, fy Mam i!
Môr o heddwch im roddodd -
yn nhonnau
ei henaid fe'm carodd,
môr o rin - a mwy a rodd,
yn ei llanw fe'm lluniodd.
O'i derwen un fesen wyf fi -
wreiddiodd
ym mhridd y ffrwythloni,
heddiw rhof ddiolch iddi -
mwy na mam fu Mam i mi.
Nid ei chur ond ei chariad -
nid ei gwg
ond ei gwên a'r teimlad,
pa rodd fel gwir ymroddiad?
Pa rym fel mynnu parhad?
Hi yw 'ngwên er fy ngeni -
hi yw'r tân
a'r tes nad yw'n oeri!
Ond er nerth y coelcerthi
trodd y fflam o Mam i mi.
Mewn Byd Heb Ryfeloedd
(Gwobr yr Academi Gymreig, 1985.
Detholiad)
Y Bardd:
Yn noddfa'r amgueddfa -
Aderyn gwyn di-gan,
Mewn cawell hen, pellennig
O wae'r tafodau tan.
I gof daw'r addoldy fel llun ar deledu
A storom o gablu a phechu rhyw ffwl,
Y dyrfa a'u sorod fel haid o wylanod
A'r duwdod a'i gymod tan gwmwl.
Hyd barthau'r Malfinas yr hwyliodd y syrcas
I fwrw galanas ag urddas y gau,
A choelcerth o chwerthin oedd machlud Mehefin
Ar wefl y gorllewin yn lliwiau!
Yr Hwn a ddyrchefir yw'r Duw nid adweinir;
Rhwng crindir a chrastir fe genir ei gan.
Mae'ch crefydd ysmala fel buwch heb ei gwala
Ar waelod yr wtra yn loetran.
A chrefydd anghyson y plastig barchusion
Sy'n peri amheuon yn ffynnon fy ffydd.
Ai d'wyllus a wnelent? I'r diafol yr aethent
A phydrent ym mynwent f'ymennydd.
A thrwy ddifaterwch eich llugoer dawelwch
Grym niwclear dderbyniwch -anialwch fy nydd.
Mae'r allor atomig i chwi'n gysegredig -
Llo aur etholedig y gwledydd!
Yr Hen Wr:
Nid ydyw Duw mor dawel
Na phell, wr ifanc, ffol -
Anadla drwy'r fanhadlen
A'r dderwen ar y ddol,
Teilwria'r fedwen arian
A'r sidan yn ei siol.
Digon i'r diwrnod ei gymhlethdodau
A'i ddrwg ei hun i'r dyn mewn cadwynau.
Teilwriodd bentalarau'r dyfodol,
Dwyfol-ymorol am ein tymhorau.
Y Bardd:
Grym meicron o bliwtoniwm
A'n dwg o'th gomedi
I'r byd o ysgerbydau
A staen ei drasiedi.
Eiliad o swrealaeth:
Cyfog, triog, traed...
Meirioli mae marwolaeth
Yn gawl o gig a gwaed.
Ar balmat anrhamantus
Mae'r dydd yn cymryd hoe,
Di-wyneb mwy'r hen slebog
Oedd ddau-wynebog ddoe.
Y baban gwan nas ganwyd
A rannwyd cyn ei rawd,
A'r diawl sy'n canu'r delyn
Wrth gnoi y groth o gnawd.
Oedi mae'r hen weinidog
Ar hyn, ym medd-dod gwres;
Di-fedd, di-wedd, di-weddi
Yw'n toddi yn y tes.
Lloffion ym mhyllau uffern
Yw'r "gwych yfory, gwell''
A Duw yw'r cyw mewn cawell -
Myd.
Diymyryd.
Ymhell.
Hunllefain
(Stori cyn huno)
I'n haelwyd cyn y 'dolig
y ganwyd i ninnau fab, sef Gwern.
A Gwern oedd y cwbwl i gyd!
Roedd pob ennyd yn llawn ohono
a hwythau'r munudau fel llanw'r mor;
ein horiau oedd ei oriau o
a'n dyddiau oedd ei barhad eiddil.
Nid oedd ei fywyd yn fawr mwy
na sugno
a bwyta rysgs oer
a chysgu
a glychu'i glwt.
Un diwrnod fe ddaeth dau fwystfil draw i'n stad -
dau anghenfil hyll.
Yn y gwyll gwallgo gwelais
lygaid y cynta'n fflachio'n fflam.
A heb wahoddiad, camodd y baedd i'r ty
ac at y pram
a sibrydodd, 'Fi yw Saddam Hussein!'
Seiniwyd y cyrn a chwalwyd breuddwydion yn yfflon cyn y nos.
Poerodd ei dan drosom
a gwelsom e'n cofleidio Gwern
a'i ewinedd ffyrnig
a'i gynddaredd uffernol.
Enfawr oedd yr ail anghenfil - y bwystfil Bush!
Milwr wedi moeli ac yn drewi
fel draig neu deigar barus
a'i flys ar hylif-bywyd Gwern -
ein lamp, ein llusern llesg!
A dyma nhw'n dechrau!
Pob un yn hawlio ein planed fechan
yn eiddo iddo'i hun!
Ac ar hyn, dyma'r ddwy ddraig gref
Yn dechrau bonllefu,
chwyrnu,
ac ysgyrnygu nes i Gwern
igian a gwegian fel hen gwch ar for o waed.
'Gwrandwch! Ylwch! Ym...!'
meddwn (gyda synnwyr Solomon!),
rhannwch fy mhlentyn noeth a chyfoethog:
hanner i'r naill a hanner i'r llall.
'Rhowch y darn uchaf i Saddam a'i gamel,' meddwn
a rhowch i'r ail ddraig
y darn isaf o'r un bach - o'i gesail
i lawr i'w goesa
ac mi ga' inna 'chydig o gwsg!
Ond ches i ddim!
Y munud nesa roedd swn eu cweryla'n
llenwi'r byd crwn!
A hwnnw ar drothwy Ionawr
a'i ryferthwy'n anferthol!
Ffrwydrol oedd y ffrae
a'r ffrwst.
Mi welaf fabi'r drws nesa'
(sef Palisteina) yn un stwnsh
oherwydd nid oes i angau, chwaith, mo'i ffiniau ffals.
A mi welaf fy mab yn datgymalu
yn y cymylau
o'm mhlegid i.
Ei ddagrau'n ffrwtian
yn y brwmstan
a'i aelodau brau
yn llenwi'r eiliadau brwnt.
Mi welaf mai hwythau'r munudau
yw traethau ein trai:
ein horiau yn wag o gariad
a'n dyddiau bas
fydd diwedd byd.
Deffra Seithenyn!
(Cyflwynaf i Mr Bush a phob Mr Bush arall; Medi
2005)
Seithenyn y meddwyn mawr,
yn ol ei arfer,
a syrthiodd i gysgu ar ol ysmygu mwg.
Chlywaist ti mo'r ewyn gwyn yn Nhywyn
yn ffrwtian swsian fel sarff
neu fel Disbrin mewn gwydyr?
Sh...sh...!
A charafanau'r ymwelwyr yn clecian
yn erbyn ei gilydd fel curo dwylo?
Ogleuaist ti mo'r garffosiaeth
yn woblo ac yn dawnsio ar y don?
Deffra - y Rip van periwincl!
Efallai y pryna i gloc-taid pren i ti ryw ddydd,
un fel sgin Arthur!
Neu gloc cwcw o'r Swistir,
un clir fel cloch,
i durio'r ymennydd efo dau air miniog:
"Cwcw! Cwcw!"
Neu beth am radio i'th ddeffro'r
tro nesaf y daw'r mor drwy'r muriau?
Oes raid i ti riddfan a rhochian cysgu mor uchel?
Deffra'r llymbar!
Oni weli 'r cocratsis o dan yr hatsis
yn gwledda ar yr hil?
Oni weli waliau'r ceginau
yn gacan o sglyfan lle bu unwaith sglein?
Oni weli di'r cypyrddau yn weigion
lle bu digonedd o gaws a Guiness?
Na weli, siwr!
'Wnest ti ddim byd erioed ond smocio
a phwmpio dy gorff hefo jync:
chwistrellu a rhidyllu dy hun
efo nodwyddau budron
yn lle chwech dy swyddfa
ar ol torchi llawes dy siwt!
Chlywaist ti r'un gair yn y Dixie
am Garbon Deuocsid
a bod y Si-Eff-Si eisioes wedi llarpio'r haen Oson?
Deffra'r bardd anonest!
Un diwrnod, Seithenyn, bydd lefel y mor yn codi
at drothwy sybyrbia
gan beri i'r gwylanod uwch y feiston las
fwrw gwyngalch arnom!
Fe ddaw i ddial o'r uchelder yn ei holl ysblander efo ... sblash!
Sbia! Edrycha! Lle bu unwaith dref ar y mynydd draw
dacw sosej-ci-poeth o draeth
a rhesi o beiriannau fideo'n ymryson a'i gilydd
lle bu defaid dy daid
a dacw haid o gychod hwyliau
lle bu'r ieir yn dodwy!
Clyw!
Oni weli yma ryw Arch Noa Newydd yn...
O! Ta waeth!, mae'n rhy hwyr!
Y byddar a gaiff eu boddi:
ti a ni a nhw.
Oherwydd ti, Seithenyn,
yw pob un ohonom ni.
Rhyfeddod!
Ym mhenodau munudyn - hen yr haul,
Yng nghyfrolau'r hedyn,
Yn y dirfawr diderfyn
Nid oes doniolach na dyn!
George
Thomas
(Englyn a sgwenwyd ar ddiwrnod ei farwolaeth)
Wedi awr o tandwri - a
Guiness -
Llond lagwn... neu weilgi:
Lledaf, rhwygaf tan regi,
Ac uwch ei fedd cachaf i.
I'r
Cyhoeddwr Hwnw
(Am alw ar feirdd i beidio a chyfranu eu cerddi i'r safwe plant
rhad-ac-ddim www.bydybeirdd.com
- gan
fod "cannoedd o bunnoedd yn y fantol" - Golwg)
Codi'r llen -
a'i weld enyd - yn dinoeth
Yn Fac Donalds hefyd;
O sbio yn nhrons bywyd
Gwelais Gymru'n gachu i gyd.
|