1993 - 1999
Chwilio am y blas gorau yn hytrach na dilyn labeli ffasiynol, lliwgar.
Marwolaeth yn dangos ei
hen ben hyll, ond aeddfedrwydd amser yn gadernid.
Mwclis o ddagrau yw adegau dyn
a phob un yn berl ar edau ein bod.
Yn esblygiad yr eiliadau
y mae'r adegau dyfnion
pan fo dwr diaros yr afon yn arafu:
ac yn yr ysbeidiau hynny
cyhyd a'r ennyd yw'r einioes
ac amorffig
yw hyd munudau ein hoes:
mwclis o lynnoedd rhwng blynyddoedd blin.
Ninnau, ein dau, nid ym
ond dotiau diatal
mewn cawod eira
wedi ein cenhedlu
i sbeiralu yn nuwch nos.
* * * *
Araf y llifa'r afon pan fo dyfnder i'r dwr:
mae ambell ennyd cyhyd a'n cof.
Dacw lun ohonof yn ymdrochi ac yn ymdoddi i'r dwr
yn Llyn Cob ac yn gnewyllyn gobaith:
un ennyd euraid o atgof a welaf a'i hyd fel oes,
un ysbaid oesol o'm gorffennol heb ei sgriffinio
yn ogleisiol o glir.
Ac yno yn fy mebyd a'i ennyd hir o haf,
synhwyraf berson arall
a'i dymer, a'i wen, a'i bryd morwynol
yn meirioli'r heulwen.
(
Yr awdur ychydig yn iau!)
Hwn o'r un enw a minnau a wybum, unwaith;
hwn, mor uniaith ac mor wahanol i mi!
Ai fi yw hwn? Ai hwn yw fi?
Rhyngddo a mi y mae gwacter a phellter a pherl
ein hieuenctid ffol.
Ei ddiniweidrwydd a'i onestrwydd i mi sy'n estron,
darfu pob cell ohono wrth heneiddio'r blynyddoedd
ac mae mwy na dyffrynoedd, bellach,
rhyngom ni ein dau.
Pa ran o'r egwan hwn sydd ynof fi?
Pa ran ohono a lifodd
o'r gorffenol i 'mhresenol swrth
fel edau o olau seren nad yw?
Nid oes dim yn gyffredin rhyngom,
dim ond diferion gwallgof
o atgofion
wedi croni.
* * * *
Yn Aber yr Amseroedd
a'i raeadrau o eiliadau a'i lif
yr esblygodd y gastropod yn bysgodyn
a'r pysgodyn yn ddyn a dyn yn dduw -
i ni fod yma, fy merch,
yn nhreiglad yr eiliadau hyn.
Dacw blentyn y newyn yn ciniawa
ar ei wala o wynt ac yn gloddesta ar y gwlith
i mi fwynhau cynhaeaf
yr eiliadau hyn.
Treiglodd iaith
o fileniwm i fileniwm
i mi ei chyflwyno
yn yr eiliadau hyn.
Llofruddiwyd Llywelyn
a phydrodd corff Glyn Dwr,
a'r hen bladurwr a ddychwelodd i dorri
Ghandi a Kennedy a King
er mwyn parhad yr eiliadau hyn.
Rwy'n ffrwyth y ddaear
ac rwyf iddi'n garcharor,
rwyf yn rhan o'r cyfan,
yn dalp o'r cyfanwaith -
ac mae hithau ynof,
yn fy ngwythiennau
er mwyn i mi fod yma gyda thi
yn yr eiliadau hyn.
Ac i rywun ganfod gwaddod y gerdd
wedi'r eiliadau hyn.
* * * *
Yn y llif fe welaf oleuni a graffiti'r ffair
a dacw delynor wrth y glannau ar derfyn dydd:
hwn yw baledwr y byw eiliadau
a drych i'n bywydau, bob un.
Clywch adlais a thincial chwedlau ei eiriau
yn herio alaw marwolaeth.
Clywch adlais hen nodau diflanedig
o liwiau'r oesoedd
drwy ei ganeuon yn fflworesant:
nodau gwerinol a dagrau hanes
yn hwrli-bwrli o berlau'n hollti'r awel
ar yr heltar-sgeltar.
Hyrdi-gyrdi o gordiau trydanol
heb gadwynau i'w dal yn sbeiralu,
igam-ogm wamalu
ac yn gwahanu'r gwynt.
'Dyw darfod ddim yn bod ar gerbydau'r ffair
a di-angau yw'r daith;
clywch swn iaith yn ymwthio o'r bedd
yn eiriau byw.
Diddiwedd yw'r heddiw
nad yw'n heneiddio nac yn gwywo;
y mae'n dragywydd.
Can, y rebel, can!
A daw llygedyn o haul diog
drwy benglogau'r nos,
a byd o liw lle bu sgerbwd o loer.
Can yn nrych y lli a bydd graffiti'r ffair
yn dal i sgrechian drwy sgrin y cof
a bydd heddiw'n dragwyddol.
* * * *
Pwy bia'r cyfnod pan fo'r tonnau'n gryndodau ar y dwr?
Pwy biau can y dyfroedd a fy llynoedd llaith?
Bellach, fy mab, fy amser yw dy amser di
a thithau biau bywyd ein munudau maith.
Gadawaf i ti'r gweddiau drodd ein genynnau'n gnawd
ac a asiodd dau fydysawd, rhof i ti
ein tiroedd materol: cei fy llestri lliw a'u llwch,
yr hen gloc-taid a hyd fy munudau i.
Dy eiddo di yw heddiw, dydd ein dyddiau!
A'th eiddo yw fy hafau a'm gaeafau i gyd
a chan mai ti, hefyd, yw etifedd fy heddiw,
fy eiddo fydd maldodi dy ddyfodol mud.
Gadawaf i ti 'nghaniadau, hen leidr fy nghan,
rho dithau dragwyddoldeb i'r munudau man.
* * * *
Oherwydd Fory
y diflannodd, rhywfodd, yr haf
i lawr afon y canrifoedd.
Llifodd fel hunllefau gwallgof
drwy ein bywydau beilch
gan ein bodio a'n treulio. Hyn yw trais amser!
Ein rhydu fel hen geriach a chrebachu'n byd,
fel hen dy ar lan y dwr lle bu'r gwynt
yn plicio'r plastar
ac yn pilio'r paent.
Af innau nawr i iro cleisiau'r hydref
a thacluso'r dail.
Ac i hyn y'n ganed! -
I lenwi'r craciau
yn fframiau'r ffenestri ffrynt
er mwyn y forwyn ddigyffwrdd
a elwir 'Fory'.
* * * *
Fe rewodd Llyn Petrual - a ni'n tri! -
ac ni fu rioed 'run awr mor hir, mor frau;
proffwydol o ysgytwol oedd y gwynt i ni
yn sipian cwpan amser a'i wacau.
Daeth Fory yn llechwraidd dros y llyn
i chwarae'i driciau ffiaidd gyda choed yr allt:
bu'n hollti'r ywen a dinoethi'r ynn,
parlysu'r rhuddin byw a gwynnu'n gwallt.
Gadawsom cyn i'r foment droi yn faich
gan adael gwrid ieuenctid ar ein hol,
ond Fory ddaeth i'n rhwystro gyda'r fro'n ei fraich
a llinell o geir llonydd yn ei gol;
a gwyddom pan gyrhaeddom hyn o griw
fod y cyfan, a mwy na'r cyfan, yn y ciw.
* * * *
Rwy'n fab, yn wr, yn dad, yn deulu
ac yn Gymru i gyd!
Yn rhan o fyd estronol y dyfodol,
byd y diolau a'r dall
sy'n newid mor ddi-hid o'i ddoe,
ac nid oes dim yn gyffredin rhyngom
namyn gobeithion bythol.
Un ysbaid di-baid
yw ein byw
a thad amherffaith ydyw.
Minnau a anweddaf yn ol i'r mynyddoedd
yn foleciwl o niwl yn y nos.
Ni all Hitler a'i dyrau - o chwerwedd
Na chariad at ynnau,
Na'r iaith, na Chymru hithau
Roi ystyr i gur a gwae.
(Ar ol ail-ddarllen gwaith Gerallt
Lloyd Owen. Fe ddarllenwyd y penill ar Talwrn y Beirdd
dan y teitl 'Y Glorian'.
Chafodd o fawr o farciau, diolch byth.)
Rhwygo'i hun o ddrwg i waeth - a rhedodd
Ar wydyr bodolaeth
Mor ddi-hid, hyd onid aeth
I wefr ola'i farwolaeth.
Defnyddio'r gwaith:
Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth
eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel
www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn
wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl. Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un
copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio
na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw
berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf.
Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.