Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Guinness
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

 Beaujolais Gwin Cartref Guinness St Emilion Bwrgwyn Potel Wag

1991 - 1992
Chwipio draw i Werddon gyda ffrindiau, yna gydag Eirian, priodi, magu teulu.
Ennilll cadair y Genedlaethol. Y Melys a'r Chwerw.

Anrheg Nadolig Cyntaf Gwern   (Barddas, Chwefror 1991)
Merch Ein Hamserau   (Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Delyn, Awst 1991)
Ar Ddydd Priodas   (17 Awst 91)
Sandra Picton   (Barddas, Ebrill 1992)
George   (C'mon Midfield) (Barddas, Awst 1992)
Yn Ysbyty Gwynedd   (Barddas, Awst 1992)
Y Cerdyn Nadolig   (Y Bedol, Rhagfyr 1992)

Anrheg Nadolig Cyntaf Gwern

Nid rhuddem a'r wawr drwyddi - a lapiwyd,
Nid lapislaswli,
Nid aur oedd dy anrheg di,
Na nid diamwnt... ond dymi!

Llais y Bardd (WAV 30KB)

horizontal rule




Merch Ein Hamserau

('Nid yw cariad yn darfod byth...' )

Nodyn gan y golygydd: Ochr wrth ochr a'r gerdd hon dylid darllen (neu warnado ar)
 'Ti' gan Edward H Dafis, caneuon Tippet ('A Child of our Time'), a 'Bangor' gan Bryn Fon.
Defnyddiwyd geiriau byw, cyfoes drwyddi gan mai dyna eirfa'r bardd.


Mae'r gerdd hefyd yn ddau fys i 'seicoleg pepsicola' America (chwedl y Prifardd Emyr Lewis) ac ieithwedd yr awdlau a'i rhagflaenodd.

"Gwelir dylanwad y gerdd hon yn gryf ar yr awdlau a'i dilynodd hi." yn ol Barddas, 1997.

Yn ol y Prifardd Eirian Davies, "roedd darllen yr awdl hon yn brofiad ysgytwol ...
torrodd dir newydd o safbwynt yr awdl eisteddfodol."
   

1.
Os bu'r 'gwybod' fel brodwaith - anghymen,
Anorffen, amherffaith,
Trodd cariad di-wad ein taith
Yn adnabod, yn obaith.
Bum unig heb amynedd - un nos hir
Ddi-ser fy alltudedd
Yn ddiorwel fel Heledd:
Alltud rhwng bywyd a bedd.
Haen o briddell heb wreiddyn - fum unwaith
A mynwent heb ddeigryn
Neu foroedd heb ddiferyn,
Haul heb liw, oriel heb lun,
Maneg heb law, crys heb lawes, - y ddoe
Ddiddiwedd, difynwes,
Ennyd heb iddo hanes
Neu walch heb rwysg, neu gloch bres
Heb dafod, gardd heb flodau - neu dan
Heb danwydd na golau,
Ton wen heb wynt yn y bae
Neu onnen heb ganghennau.
Hebot gwag oedd fy mebyd, - fy mharhad
Oedd fy mrwydyr enbyd,
Bwa heb ffidil bywyd
Oeddwn, diemosiwn mud.
O borthladd i borthladd y bum - o winllan
I winllan yr euthum,
Wedi'r daith adre deuthum
A gwin fy haf a ganfum.
Edau yn canfod nodwydd, - ym mherfedd
Morfil o unigrwydd
Yr ansicr drodd yn sicrwydd
A throdd dyn yn blentyn blwydd.
2.
Pan oedd y wendon yn ei dicllonedd
Clywais d'arogl yn arogl cyfaredd,
Hwyliais i fae gorfoledd - dy galon
A chael Afallon a chlo fy allwedd.
Brwydr yr ieuanc fu'n berwi drwof
Hyd oni theimlais dy dresi drosof,
Aeth ymryson ohonof, daeth suon
Adar Rhiannon i drydar ynof.
Wyt Dref Wen ein hil. Wyt dirf anialwch,
Hyder y galon lle bu dirgelwch.
Wyt alaw mewn tawelwch. - Wyt weithiau'n
Cynnau canhwyllau yn fy nhywyllwch.
Wyt had fy mharhad. Wyt dwf fy mhryder.
Wyt wawn, wyt wenau. Wyt wanwyn tyner,
Y blaendwf a'i ysblander - ac weithiau'n
Ewin o olau mewn byd ysgeler.
Wethiau, am ennyd, yng nghampwaith Monet,
Ti yw yr eiliad sy'n mentro i rywle
Ar wyneb aur ein bore, - ond wastad
Mewn gwlad tan leuad, wyt win Beaujolais.
Wyt wawl fy mawl. Wyt win St Emilion.
Wyt ffiol risial i ddagrau calon.
Wyt win cyfriniol y fron. - I'm gwefus
Wyt lafoer melys, wyt liw fermilion!
Mae fy nghan ifanc, mae fy nghynefin
Ynot a rhythm borewynt drwy'r eithin,
Wyt gyffro Giro mewn jins - sy'n datod.
I 'mwa hynod wyt ffidil Menuhin.


Lleuad y nos a fu'n tywallt drosot
A'i rhaeadr ieuanc o gytser drwot,
Minnau yn fflam ohonot, - Erin f'oes;
Rhannaf fy einioes, serennaf ynot.
3.
Cymer fi, cymer fy haf, - cymer fwy,
Cymer fi drwy 'ngaeaf,
Cymer ac fe'th gymeraf:
Dywed y gwnei a dwed, 'Gwnaf!'
Dau lais ein ffidil iasol - yn uno
Am ennyd ysbeidiol
Ond tonnau gwyllt Donegal
Yn ein hasio yn oesol.
O'Donohues, dau yn un. Ein deuawd
Yn diwel dros Ddulyn
A dau lais ein mandolyn
Yn un gofer, yn gyfun.
Un nodyn o 'nhelyn i - yw Erin,
Wyt Bair y Dadeni.
Ateb, a gaf fod iti
Yn nodyn o'th delyn di?
Yn anghytgord y cordiau - mae arswyd
Amhersain... ond weithiau
Newydd yw'r harmoniau
Ddaw'n ffrwd o goluddion ffrae.
Yn dy faldod datodaf, - yn d'anwes
Dyner y meiriolaf,
Yn dy gol di y gwelaf
Eigion o wen yn dweud, 'Gwnaf!'
Un nos hir ein hamserau - ddiflannodd
Fel ennyd, bydd dithau
Yn ganiad o'm caniadau,
Bydd ganiad uniad ein dau.
4.
A gaf i heno wagio fy enaid,
Arllwys ei gynnwys i'th ffiol gannaid
A chynnau ag ochenaid - ganhwyllau
Ein Nadoligau yn nwfn dy lygaid?
Yn dy winc araf mae trydan cariad,
I minnau heddiw mae hen wahoddiad,
I ni'n dau mae'n dyhead - heb ddadl
Yn drwm o anadl ein storm o uniad.
A daw'r eira'n rhugl o Gaer Arianrhod
Fy nghorff a'm noethni fel pili-palod.
Cael ym mhinacl y mannod - betalau
Taer dy amrannau yn cau mewn cawod.
Can i mi'n gyfoes f'offeryn oesol,
Reggae gwahoddiad a'r Blues tragwyddol,
Can yn ifanc hynafol - dy nodau
A chan ar rythmau'r caniadau cnawdol.
Rhof innau'r cordiau ar dap-recordydd,
Rhoi drama einioes ar fideo'r 'mennydd
A rhoi ar go'n dragywydd - freuddwyd llanc
A'th lwynau ieuanc yn fythol newydd.
Yn y cnawd gwynias mae can digonedd,
Ym mru yfory mae hen gyfaredd,
Clun ynglun, gweinied fy nghledd - drwy'r storm chwil
Yng nghaer fy hil mae had fy ngorfoledd.
I'n gwar ymryson daeth grym yr oesau,
Ym mhair marwolaeth mae murmur o olau
A ffrwd ein cyffroadau, - mae gwawrddydd
Hyn na llawenydd yn had ein llwynau.
Mae hen wahoddiad yn fy mhinwydden
Eilwaith. Amdanaf mae dy ffurfafen
Yn hyder am fy nghoeden - cyn toddi
A ni'n meirioli mewn mor o heulwen.
5.
Branwen a Biriani
A mwy yw cariad i mi!
Car ar daith o'r crud yw hwn,
Trwy orfoledd trafaeliwn.
'Can Walter' ar ol cyri -
Oer a lleddf fel tonnau'r lli
Yn plycio o'r gro'n garuaidd,
Plycio rhyw atgo o'n craidd.
Cariad yw mynd a'th adel,
Ffoi ar wib heb ddweud ffarwel
A ffraeo cyn ffustio'r ffon
I'w grud - a ni'n gariadon!
Ac Erin, hyn yw cariad:
Poeri i wynt ein parhad
Ac ail-lunio rhagluniaeth
Ein taith bell er gwell, er gwaeth.
Cariad yw hel profiadau
Ynghyd a'n llygaid ynghau:
Ffoi ar fodur ffair Fedi
I nos dawdd dy fynwes di.
Mynd o nef munudau nwyd
I Foel Fenlli'n felynllwyd:
Swigod ar draed yn codi,
Hyn oll yw cariad i ni.
Fel swyn nyth, fel les hen nain
Mae parhad cariad cywrain
Trwy'n tylwyth yn gweu pwythau
Neilon o'n breuddwydion brau.
Cariad ni wel aceri
Rhyddid ein hieuenctid ni
Yn gwibio heibio o hyd:
Buan yw traffordd bywyd.
6.
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau,
ac anweledig yw ein heiliadau
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn
Ac ni arhoswn. Wyt gan yr oesau!
Bum gan mewn potel a Blues y felan,
Yn weddi Largo ar nos ddiloergan
Nes y cefais y cyfan - o'th gan di
Yn llenwi'r gwegi. Wyf gerflun Gauguin!
Cyn tyrr y Ddaear ei llinyn arian
Cyn diffodd amser fel lleufer llwyfan,
I ninnau rhoed mwy na'n rhan: - epiliog
Yw nodau beichiog pob ennyd bychan.
Yng nghylchoedd ein bod y cwsg darfodaeth.
Ond i'n hymlyniad ni mae olyniaeth
Edau arian cadwriaeth - daear frau
Yn wawn o olau lle cwsg dynoliaeth.
I'n hawr o heddwch daw gwanwyn rhyddid
I agor y blagur ir oblegid
Sanctaidd yw croes ieuenctid: - y parhau
A geni o ddau gan o addewid.
A daw dynoliaeth o'i mud anialwch!
Wyt had o gariad a goddefgarwch,
Yng nghymrodedd a heddwch - cyfanfyd
Ti yw yr ennyd sy'n llawn tirionwch.
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau
Ac anweledig yw ein heiliadau,
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn
Hyd oni welwn y byd yn olau.
7.
Un yw dyn a daioni. Ond er hyn
Mae'i drem ar ddifodi:
Ganwaith ers awr ein geni
Saddam ein hoes ydym ni.
Mae Irac y Gymru hon - yn llawgoch,
Yn llugoer ei chalon,
Heb glywed iaith gobeithion
Na rhin cyfriniol dy fron.

Ers 1991 mae Robin wedi gwrthwynebu dylanwad a materolrwydd America.
Rho'r bai ar wacter bywyd - can o Goke
Yn y gwynt crintachlyd!
Diflas a bas yw ein byd
Oni feddwn gelfyddyd.
Hyn o nialwch anwylom! - Ei afael
Sy'n gwallgofi'n hymgom:
Ni o bawb yn gaeth i'r bom!
Dilynwn y diawl ynom!
Ynom hefyd mae afon - a'i ffrydiau'n
Gyffroadau calon,
Hen ddwfr, hen win y ddwyfron
Yn creu, ail-greu planed gron.
Un cyfle gawn rhag dilead - heulwen,
Ecoleg y cread
Sydd ynom ni'n eginhad
Ac Erin, hyn yw cariad.
Tarian y gwar yw trin geiriau, - rhoi llais,
Rhoi lliw i'r munudau,
A rhoi awen i'n gwenau
A chwerthin prin i'n parhau.
Wyt ennyd ym motaneg - pabi gwyn,
Pob gair o 'mywydeg!
Yn rhythmau'r petalau teg
Wyt linell o'm telyneg.
8.
Aberhenfelen ni welaf heno
Na'r un madruddyn a chleddyf drwyddo,
Ni ddaw Heledd i wylo; - ym mydoedd
Ein hymysgaroedd mae ias y gwawrio.
Wyt fur o hyder mewn byd difrodus.
Wyt yn afallen mewn tir anghenus.
Denim mewn bro dihoenus - ei brethyn.
Wyt yr ewyn gwyn ar beint o Guinness.
Wyt Ewropead, yn wlad heb dlodi.
Wyt awyr Glasnost. Wyt dir y glesni.
'Yma o hyd' wyt i mi - fel hen chwedl,
Yn wyrth o genedl, yn groth y geni.
A mab a anwyd o'n mil breuddwydion,
Yn un haul newydd, yn olau neon,
Yng ngwin cyfriniol dy fron - mae teulu
A lleuad fory'n y lli diferion.
(Nodyn gan Robin: 'Gwern' oedd enw mab Branwen
yn y Mabinogi, a dyngwyd i farwolaeth gynar.
Dyma hefyd yr enw a roesom ar ein plentyn cyntaf.)

Mae'r geni'n goroesi ffiniau'r oesoedd,
A'r waliau'n dymchwel heb swn rhyfeloedd,
Un ydym, un yw'n bydoedd, un teulu
Gwiw yn anadlu yw'r holl genhedloedd.
Mae gen i freuddwyd am gefnfor heddwch
Yn frwd o gariad ac am frawdgarwch,
Am ddeilen, am eiddilwch - y byd gwyrdd
Heddiw'n fytholwyrdd ond ddoe'n Fatholwch.
Rhes hir o brofiadau'n trwsio'r brodwaith.
Wyt leuad borffor. Wyt eiliad berffaith.
Wyt for o gariad. Wyt iaith - cyfamod.
Boed ein hadnabod yn don o obaith.

 

horizontal rule

 

Ar Ddydd Priodas

(Dwyryd Roberts a Ceri Thomas, 17.8.91)

I'r llwydrew dilewyrch, di-liw - y daeth
Llafn y dydd a'i ddyfrlliw
Drwy haul Awst eich ffenestr liw
Am ryw eiliad amryliw.



 

horizontal rule

 



Sandra Picton (C'mon Midfield)

Ei holl osgo'n ein llosgi; - canhwyllbren
Yw'r denim amdani
A thân ei chenhedlaeth hi
Hydreiddiodd yn wawr drwyddi.


horizontal rule




George (C'mon Midfield)

A hyder yr amserau - dinoethaist
Ein hiaith o'i hualau:
Lleder du'n lle brethyn brau,
Denim lle bu cadwynau.

 

 

horizontal rule

 

Yn Ysbyty Gwynedd

Un awr hurt, hir ei artaith - sy'n einioes
Annynol o hirfaith,
Ac amorffig, amherffaith
Yw hyd ein munudau maith.


 

horizontal rule

 

Y Cerdyn Nadolig

Eira'n drwm -
yn got o gotwm ar gytir
a'r maestir yn wyn fel Mair.
Eira pur yr amserau wedi fferu
a'r pin yn frenhinol dragwyddol,
yn ganhwyllau gwer.
Seren egwan yn cynau Seren
a'i gwen yn ein consurio
a'n lledrithio'n llwyr.
Dacw dri'n penlinio yn ei goleuni
o flaen y glanaf a'r gwynaf ei gwedd:
Mair wen lan. A dyma'r mab:
y baban difrycheulyd a anwyd ohoni:
Duw a dyn wedi uno'n gyfanwaith!
Am ragrith! am rwts!
Fe'm lledrithiwyd yn llwyr!
Nid yw'r llun yn llawn, yn gyflawn;
mae rhan ar goll!
Y tu hwnt i ymylon teg y llun mi welaf Mair
ymysg y bustych, yn griddfan ac yn tuchan
drwy'i chyhyrau tynn
a bwa'i chorff yn staen porffor.
Ym mudreddi'r stabal mae'r geni'n rhwygo'i gwedd
fel y rhwygodd ei gwisg
cyn iddi wlychu ei gwely gwair;
chwysu a bustachu yn y baw a'i stomp -
bustachu heb steil.
Mae eiliad cyhyd a miliwn
pan fo'r byd yn llafn o boen.
Hithau yn gwthio'i hun drwy ei gwythiennau
nes i'w sgrech noeth esgor ar waedd,
nes i'w phoen esgor ar gorff hyll o hardd,
hardd o hyll.
Ac wrth y carthion
y tu hwnt i ymylon y llun mi welaf
Fair y fam,
fel pob mam
ym mryntni'r geni yn synhwyro gwyrth.
Ac yn ei dwylo -
wedi'i beintio'n binc -
yr ymgnawdoliad
yn ysgarlad ac yn borffor
yn ei wisg o waed.
Ac yn berffaith!
Dau lun gan ddau arlunydd
a dwy ran o'r cyfanwaith
yn agweddau ar yr un digwyddiad.
A'r naill heb y llall
yn unochrog,
yn unllygeidiog,
yn gysgodion lliwiau,
yn wirionedd gau
ac yn gelwyddau gwir.


 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.