|
Pedair Oed
Mond pedair oed yw oed y byd
A phedair oed ei led a’i hyd,
A’r lloer a’r sêr fu yma ‘rioed
I mi sy’n ddim ond pedair oed.
Cynheuaist gannwyll, fflam ein serch,
A’r fflam a drodd o fam i ferch
Yn bedwar fflam. Down at ein coed!
At bedwar haul dy bedair oed.
Ar dy wefusau – iaith ddi-drai
Sy’n newydd sbon, sy’n danlli-grai
Er iddi fod yn hŷn na’r coed:
Be ydy’r iaith? Merch bedair oed!
Er dy fwyn di a’r eiliad hwn
Y gwnaed y byd – a’r cread crwn!
Ti yw’r direidi sydd ar droed,
Dy wawr o wên, dy bedair oed.
Yr eisin gwyn, y chwerthin iach
Yn stopio’r byd am funud fach
Ond haul dy wên fu yma ‘rioed
Yn bader rhwydd, yn bedair oed.
|
Cantorion:
Rhys Meirion
|
Cerddoriaeth gan: Robat Arwyn
|
|
Hawlfraint: Robat Arwyn, Robin
Llwyd ab Owain a Curiad
|
Copiau o'r llawysgrif - ar
werth oddi wrth gwmni Curiad
|
|
Nodyn 1: gweler
hefyd Ym Mharti Pen-blwydd
Erin ac Englynion Cyfarch Rhys
Nodyn 2: sgwenwyd yr englyn 'Ym Mharti Pen-blwydd Erin' yn
gyntaf, yna yn 2004 ar wahoddiad Robat Arwyn, sgwennwyd y geiriau uchod ar
gyfer merch Rhys Meirion a oedd yn bedair oed ar y pryd. Gweler erthygl
Y Bedol.
|
Llun o Erin yn 4 oed:
|
|