Yn Llygad y Llew
Mae'r ser yn ein nos fel arwyddion
Yn dangos y llwybyr trwy'r waen:
A'r ser yw arwyddbyst ein fory,
Mae nhw'n gwybod beth sydd o'n blaen.
Mae nhw'n gwybod pob gair cyn ei adrodd
A phob un symudiad a wnawn,
Mae nhw'n gwybod pob hunllef a breuddwyd,
Pob uffern a hunllef a gawn.
Yn llygad y llew a'r pysgodyn,
Yng nghrafanc y Forwyn,
Ym mhigiad hen sgorpiwn y rhod,
Rhwng deugorn y Tarw a'i dymer a'r Saethwr:
Dyw rhyddid ddim bellach yn bod.
Rwyt byped yn nwylo'r planedau,
Mae rheiny yn arwain dy droed
I ddilyn ol traed yn y tywod:
Ol traed a fu yma erioed.
A phob rhyw symudiad a wnaethost,
Pob gair, a phob tro ar dy daith,
Yw'r fflam yn y llygaid tywyll,
Yw'r ffilm yn y llygad llaith.
Yn llygad y Llew...