|
Y Gymraeg
|
Yn fyr: | |
Ganwyd: |
Cynwyd, Corwen, ble mae Eirian fy ngwraig yn dysgu. Mae pob cylch yn troi yn tydy? |
Gwaith: | Prif bensaer safleoedd gwe Cyfrifiaduron Sycharth (ers 2000); prynu, datblygu a gosod tai, siopau ac eiddo eraill er mwyn eu gosod i Gymry lleol. |
Dyddiad Geni: |
Chydig cyn y chwedegau. |
Addysg: |
Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor (hyd at 1968); Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn (1968 - 1969); Ysgol Troed y Bryn, Tywyn, Merionnydd (1969 - 1970); Ysgol Uwchradd Tywyn (1970 - 1976); y Coleg Normal, Bangor (1976 - 1979). |
Priodi: |
Priodi Eirian (nee Morris), Llantysilio, Llangollen ym Mawrth 1989. Ffindio fy angor. |
Plant: |
Gwern (ganwyd 1990) ac Erin (1993). |
Rhieni: |
Eira Owain (nee Lloyd) yn wreiddiol o Ben-bre, Llanelli ac Owain Owain (yn wreiddiol o Bwllheli). |
Hoff feirdd: | Sion Aled, Iwan Llwyd, Peredur Lynch, Tudur Dylan, Ceri Wyn Jones, Tilsli, Ynyr Williams, Waldo, Saunders, Marc Lloyd Jones, Alan Llwyd, Ifor ap Glyn a Dic Jones. |
Cyhoeddi: |
Rebel ar y We, Cyhoeddiadau Sycharth, 1996; Gwin Beaujolais, Gwasg y Lolfa, 1991; Ceidwad y Gannwyll, Gwasg y Lolfa, 1995; Iarlles y Ffynnon, Gwasg y Lolfa, 1997. Tair Drama Saunders Lewis (2000, ACCAC). Does gen i ddim awydd cyhoeddi fy ngwaith ar bapur; da ni'n tori gormod o goed i lawr heb i mi fod yn rhan o'r cynllwyn... |
Cas bersonau: |
Bill Gates, Rod Richards, George Thomas, Ian Paisley, beirdd pologaidd V Vawr, George W Bush a fi fy hun. |
Hoff win: |
Unrhywbeth gydag wmff y dderwen neu'r ysgawen yn gry' drwyddo. |
Cas win: |
Vouvray, Beaujolais a phlonc Loir. |
Hoff eiriau: |
Stwnsian, bethma, rwts, denim, ffractaliaeth, geneteg, petheuach |
Cas eiriau: |
Y werin, gwerinol, polis, gwasgod, calciwletar, fi, bys Crosville a Santa Clos. |
Hoff gerddoriaeth: |
Dafydd Iwan, Beethoven, Brahms, Verdi, Meic Stevens .... |
Cas bethau: |
Beirniaid llenyddol sy'n beirniadu (neu frolio'r) bardd yn hytrach na'i sgwenu. Hefyd: smwddio; dyblu'r 'n' a gorfod rhoi to-bach ar waith plant yr ysgol ers talwm. Cyhoeddwyr Cymraeg nad ynt yn rhoi eu llyfrau ar y we AM DDIM. Y Cyngor Llyfrau am ymladd mor galed yn y blynyddoedd cynnar YN ERBYN technoleg gwybodaeth a'r we, ac felly'n llesteirio twf y Gymraeg. |
Ers 1991 mae Robin wedi gwrthod cyfweliadau am ei waith fel bardd a'i waith dyddiol gyda phob sianel radio a theledu oherwydd: 'mae nhw'n rhy Americanaidd, yn rhy Saesnigaidd ac yn gwbwl anigonol. Does dim angen S4C a Radio Cymru arnom bellach; mae pob bardd a llenor yn sianel ynddo'i hun, yn gyhoeddwr ynddo'i hun drwy gyfrwng y we.'
Nid yw'n dymuno dyblu'r 'n' a'r 'r' yn ei waith oni bai fod angen gwneud hyny i wahaniaethu: rhwng ystyr 'tonau' a thonnau er enghraifft.
Mae'n llysieuwr ers iddo fod yn wyth oed er iddo droi'n garnifor yn y coleg "gan imi fynd i edrych yn dena fel croen rhech!"
Dyma ymateb y bardd i Jennie Eirian pan ofynodd iddo am 'dipyn o hanes eich magwraeth a'ch cefndir.' yn Y Faner, Awst 31, 1979:
"Nid oes gennyf 'fro fy magwraeth' fel y cyfryw, oherwydd i mi symud yn aml o fro
i fro gyda'r teulu... Os unlle, Gwynedd yw bro fy magwraeth ac yn bendant hi sydd agosaf
at fy nghalon! I Ysgol Uwchradd Tywyn yr euthum gyda Maldwyn Davies yn creu diddordeb ynof tuag at
Lenyddiaeth Gymraeg. Fe'm hysgogwyd gan Robat Jones, Chwilog ac Alan Llwyd i ymhel a'r
cynganeddion; i goroni'r cyfan, prynodd fy nhad bentwr o lyfrau'n ymdrin a'r gynghanedd.
Hyn oll a 'm hysgogodd i sgrifennu fy nghywydd cyntaf - "Y Tractor" - ar gyfer
Eisteddfod yr Urdd, noson cyn fy Arholiad Lefel A Cymraeg! "
Defnyddio'r gwaith:
Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth
eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
|