Diarhebion, pytiau, dywediadau...
Mae llawer o'r canlynol wedi'u defnyddio mewn papurau bro, ar gerig beddau ayb,
Rhyfela
Saddam ein hoes ydym ni.
Merch Ein Hamserau

Mam
(Hyd Ebrill 2005, fe ddefnyddiwyd yr englyn cyfan, neu'r gwpled, ar
o leiaf 5 carreg fedd led-led Cymru)
O'i derwen un fesen wyf fi -
wreiddiodd
Ym mhridd y ffrwythloni,
Heddiw rhof ddiolch iddi -
Mwy na mam fu Mam i mi.
Mam

George W Bush
Erchyll beth yw rhech llo bach

Colli cariad:
Mae'r heulwen fu'n meirioli
Eira oer fy oriau i?
Allan o:
Colli Cariad

Y Fro ddi-Gymraeg:
I'r dianadl, di-wraidd, mewn dinas wâr:
Vouvray, Beaujolais a phlonc Loire!
Allan o: Ysgawen
Mewn Mynwen

AIDS:
Dau gywely yw angau a chenhedlu
yn nawr
Claf o Gariad

Saunders Lewis:
(Englyn buddugol Tlws WD Williams, Barddas)
I'r frwydr, rhy fawr ydoedd,
Rhy Gymreig i Gymru oedd.
Saunders Lewis

Beth ydan ni?
'Does dim yn eiddo i ni,
na phiano na ffenestr na ffôn,
a 'dydi'r llestri pridd yn ddim ond rhai dros dro...
Gwreichion

Tai Haf
'Gwell adfail na phlas ysbeiliwr!'
Gwreichion

Beth ydan ni?
Nid yw'n heinioes ond nionyn.
Amser

Ar ol ffraeo:
Newydd yw'r harmoniau
Ddaw'n ffrwd o goluddion ffrae.
Merch Ein Hamserau

Cariad:
Cariad yw hel profiadau
Ynghyd a'n llygaid ynghau.
Merch Ein Hamserau

Pobol Ifanc
Sanctaidd yw croes ieuenctid.
Merch Ein Hamserau

Gwerthoedd
Diflas a bas yw ein byd
Oni feddwn gelfyddyd.
Merch Ein Hamserau

Rhyfel
Ni o bawb yn gaeth i'r bom!
Dilynwn y diawl ynom!
Merch Ein Hamserau

Heddychiaeth
Tarian y gwâr yw trin geiriau.
Merch Ein Hamserau

Cariad
Wyt linell o'm telyneg.
Merch Ein Hamserau

Cariad
Wyt yr ewyn gwyn ar beint o Guinness.
Merch Ein Hamserau

Cariad / Teulu Dyn
Un ydym, un yw'n bydoedd, un teulu
Gwiw yn anadlu yw'r holl genhedloedd.
Merch Ein Hamserau

Moderniaeth
Lleder du'n lle brethyn brau,
Denim lle bu cadwynau.
Merch Ein Hamserau

Einioes Dyn
Ac amorffig, amherffaith
Yw hyd ein munudau maith.
Yn Ysbyty Gwynedd

Poen
Mae eiliad cyhyd a miliwn
pan fo'r byd yn llafn o boen.
Y Cerdyn Nadolig

I'r Bardd Modern:
Can, y rebel, can!
A daw llygedyn o haul diog
drwy benglogau'r nos,
a byd o liw lle bu sgerbwd o loer.
Llynoedd

Amser
Araf y llifa'r afon pan fo dyfnder i'r dwr:
mae ambell ennyd cyhyd a'n cof.
Llynoedd

Mewn ewyllus
Gadawaf i ti 'nghaniadau, hen leidr fy nghan,
rho dithau dragwyddoldeb i'r munudau man.
Llynoedd

Pwrpas Byw:
Ac i hyn y'n ganed! -
I lenwi'r craciau
yn fframiau'r ffenestri ffrynt!
Llynoedd

Cymru
... Daw rhyddid i'n gwlad
O'i charcharu a chariad.
Iwerddon

Y Gymraeg
Iaith drydan, ddiwahanod, - degawdau
Digidol, iaith barod,
Am un dydd rhwng mynd a dod
Yn dadweindio Prydeindod.
Y Gymraeg (ar y
Rhyngrwyd)

Plentyn
Yn y llaw fach mae'r holl fyd.
I'r Sawl sy'n Gofalu am Blant

Plant
Caerau'r iaith yw plant y crud.
Y Pethau Bychain

Hed Amser
Bum wanwyn am bum munud - yna'r haf
Am ryw winc; aeth ennyd
O Hydref i'r diawl hefyd.
Un gaeaf gwag wyf i gyd.
Hed Amser

Pobol Ifanc
Ein parhad yw'n cariad cel:
Caru'r ifanc a'i ryfel...
Rebel Cariad

Swn Plant
Ni all yr un diwylliant
Epilio'i hun heb swn plant.
Neuadd Ysgol
Cynwyd

Marwnad
Mae'n ei fedd a minnau'n fyw.
'Nhad

Marwnad Dafydd Orwig
Ni ddaw nol yn ddyn eilwaith,
Ni ddaw nol. Gweddw yw'n hiaith.
Dafydd Orwig

Bychander Dyn
Sgynai'm ots (a gwyn 'y myd) - be ydwi,
Ydwi'n bod? Am ennyd
Dwi ar gi strae ar wag stryd:
Chwanen ar bawen bywyd.
Perspectif

Geiriau Cyntaf Plentyn
(Englyn buddugol Tlws WD Williams, Barddas)
Uwch tawelwch y teulu - y torrodd
Taran ei pharablu;
Efo iaith pob ddoed a fu
Llefarodd ein holl fory.
Geiriau Cyntaf Erin

Ar Draeth Amser
Lluniais frawddeg o gregyn - erydu
Ol fy nhraed yn dirlun
Ac arwyddo dano, "Dyn!"
O'm hol roedd tywod melyn...
Olion Traed

Sobri
Mae haul mewn cwrw melyn - am
eiliad
A chymylau wedyn...
Olion Traed

Amheuaeth
Dangos drwy fy nos, fy Nhad,
Fideo o' r atgyfodiad.
Olion Traed

Wedi'r Farwolaeth / Perspectif amser
A chydag amser fe ddown at ein
coed,
Ni welwn fyth mo’r mynydd wrth ei droed.
Olion Traed

Byrder Bywyd
'Mond hyn-a-hyn roed ini,
A hyn-a-hyn ydan ni.