Y Gynghanedd: '...gyfoes ac oesol...'
Barn, Medi, Hydref a Thachwedd 1979 - Y
Gynghanedd yn yr Ysgol Uwchradd
Y Faner 31 Awst, 1979
Barddas, Chwefror 1985
Y Faner, Mehefin 28, 1985
Y Faner, Rhagfyr 5, 1986
Y Faner, 10.8.91:
Barddas, Hydref 1991
Barddas, Mehefin 1994
Barddas, Chwefror, 1997
Barn, Medi, Hydref a Thachwedd 1979 -
Y Gynghanedd yn yr Ysgol Uwchradd
Y Faner (31 Awst, 1979)
Ateb Jennie Eirian yn Y Faner (31 Awst, 1979). Y cwestiwn a ofynodd oedd
"Sut
rydych chi'n teimlo ynglyn a Chymru - digalon neu obeithiol?"
I mi, nid yw 'digalon' yn gwbwl groes i 'gobeithiol'; 'anobeithiol' yw negydd
'gobeithiol'. Pe dywedwn fy mod yn anobeithiol ynglyn a Chymru, yna afraid fuasai ymegnio i
geisio ymestyn oes y Gymraeg - ac nid ymdrafferthwn hyd yn oed i sgwennu'r ychydig eiriau
hyn!
Pe dywedwn fy mod yn 'obeithiol', yna eisteddwn yn ol heb godi bys - a byw mewn
paradwys ffwl. Dyma i mi yw'r ddau begwn eithaf - y pesimist a'r optimist - ag i'r ddau yr
un nodwedd - difaterwch.
...Digalon-obeithiol ydwyf i ynglyn a Chymru.
Barddas, Chwefror 1985:
Darllenais 'Colofn Gwilym R' 'Beth yw canu cyfoes?' yn rhifyn Tachwedd o
Barddas....
Mae'n awgrymu dau beth yn ei golofn. Yn gyntaf, y dylai'r testun fod yn gyfoes
('arfogaeth niwclear ayb'). Yn ail, idiom y canu, 'Dylai arddull y beirdd ddangos eu bod
yn gyfarwydd ag arddull beirdd cyfoes o wledydd eraill.'
Yr hyn mae'n ei ddweud mewn gwirionedd yw fod arddull anghymreig yn un o hanfodion canu
cyfoes! A rhagddo i drafod Gwyn Thomas am ran helaeth o'r golofn, fel pe bai o'n
enghraifft unigryw o fardd cyfoes. O dderbyn diffiniad Mr Jones, yna cytunwn i'r carn ag
o; mae Gwyn Thomas yn ddall i holl egwyddorion, arddull a holl draddodiadau ein
barddoniaeth ni. A gresyn yw gweld y genhedlaeth hyn hon (cenedlaeth Gwilym R Jones a Gwyn
Thomas) yn gorseddu rwts estronol ar draul beirdd cyfoes go iawn. Beirdd ifanc sy'n rhoi
gwin eu barddoniaeth yn hen gostreli'r gynghanedd. Nid fel Mr Thomas....
Mae gan y genhedlaeth iau neges, ac nid ei gweithio ar ffurf englyn yn unig a
wnawn (a'i chyhoeddi i gynulleidfa gyfyng Barddas) ond ei bloeddio o lwyfannau pop a
thrwy'r cyfryngau. Nid defnyddio swydd darlithydd i gyhoeddi ffiloreg estronol, ond
impio'r gynghanedd a chanu modern yn ei gilydd a bloeddio'r cerddi i bob copa walltog.
Canu syml, canadwy ar gynghanedd - rocynghanedd!
Un ol-nodyn i ddiweddu. Yn fy marn i, mae math arall o ganu cyfoes yn bodoli - nas
trafodwyd gan Mr Jones, sef cerddi 'Yn Nydd yr Anghenfil', Alan Llwyd ayb. Perchir y
gynghanedd, glynir at draddodiadau a delir yn drylwyr a phroblemau enbyd bywyd. Canu
cyfoes.
Y Faner, Mehefin 28, 1985
Rhywbeth i'r glust yw'r gynghanedd, yn union fel hylif-clust ('eardrops'). Dyna yw ei
'raison d'etre'. Digon teg, felly, yw gofyn (yn yr hinsawdd dechnolegol hon) pam nad ar
gasetiau y cyhoeddir gweithiau cynghaneddol, yn ogystal ag ar gyfrolau papur? Y peth
agosaf at hyn (ar wahan i ddarlleniadau beirdd fel Cynan ar record) yw'r recordiau a
chasetiau o weithiau cynganeddol ar Gerdd Dant. Ond fel y Gymdeithas Gerdd Dafod, mae'r
Gymdeithas Gerdd Dant hithau'n gyfyngedig ei hapel - i'r detholedig-freintiedig
rai.
Mae'n wir fod gan y ddwy gymdeithas eu slotiau ar y 'cyfryngau': Talwrn y Beirdd i'r
naill a'r Wyl Gerdd Dant i'r llall. Ond a ydynt, mewn difri calon yn poblogeiddio'r
gynghanedd? Ar wahan i hyfforddi carfanau o ieuenctid yn y ddwy grefft, nid ydynt yn
poblogeiddio'r gynghanedd: rhoi llwyfan i farddoniaeth a chan yw eu nod, a cheir llwyddant yn
hynny o beth. Sefyllfa statig.
Mae angen chwistrelliad o adrenalin bywiol ar y gynghanedd neu mi fydd hi'n crogi ar
fachyn mewn amgueddfa. Yr offeryn cryfaf i boblogeiddio unrhyw beth dan haul yw'r
cyfryngau. Braf oedd gweld teledu 'Talwrn y Beirdd'; chwistrelliad i'r hen geiliog! Ond
eto, yr un fydd y gynulleidfa - Mr a Mrs Jones, Ty Capel (efallai?) a hen stejars
cyffelyb.
Os gwelwn ni fyth ddadeni yn y gynghanedd, yna plant
'Mr a Mrs Jones' fydd yn gyfrifol
amdano. Y rhain a'n harwain o'r niwl a'r anialwch. Heddiw fe ddarperir iddynt hwya mryw o
raglenni pop a ballu, ond dim cynghanedd.....
Dychwelaf at fy nghwestiwn agoriadol, gydag ychwanegiad. Pam nad trwy gasetiau y dylem
gyhoeddi barddoniaeth gynganeddol? Casetiau fideo a siart hyd yn oed, boed y farddoniaeth
yn cael ei chanu neu ei hadrodd.
Synau, lleisiau a llun - gyda graffics cyfrifiadurol i gronni'r cyfan! Ac anrhydeddir y
gynghanedd ...
Ymataliaf. Realaeth .... Mae Sion a Sian ar ddechrau ....
Y Faner, Rhagfyr 5, 1986
(Adolygiad o bedwair cyfrol yng nghyfres y Beirdd Answyddogol, Gwasg y Lolfa)
Ers cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yng nghyfres y Beirdd Answyddogol aeth llawer o arwyddion
Saesneg o dan bontydd Cymru a chododd rhesi ar resi o ylsyrs yn stumogau'r
chwyldroadwyr.
Er y diwrnod hwnnw pan wrthododd Robat Gruffudd radd gan Brifysgol Cymru bu'n driw i'w
weledigaeth arloesol a llifodd toreth o lyfrau, posteri, cardiau a chylchgronau bywiog a
lliwgar o Wasg y Lolfa. Diolch amdano.
....
Mae cyhoeddi'r cyfrolau hyn yn diarddel eu hawduron o gornel y Beirdd Answyddogol; yn
wir gellir dadlau nad yw dau ohonynyt yn Answyddogol, gan iddynt gyhoeddi cyfrolau cyn
hyn.
Dagrau Rhew gan Sion Aled (Rhif 5 yn y gyfres) a roddodd y pleser mwyaf i mi. Trwythodd
Sion Aled (y Prifardd erbyn hyn) ei hun yn y gynghanedd cyn cyhoeddi ...
Nid yw'r pedwar bardd uchod yr un fath a Sion. Ofnaf mai prin iawn yw eu geirfa. Gwn
fod gan Steve Eaves eirfa eang iawn at ei alw ac efallai mai ar allor symlder yr aberthwyd
hi.
Nid oes yr un o'r pedwar yn defnyddio'r gynghanedd. Dyma'r ffasiwn. Y mae cynganeddwyr
ifanc heddiw yn dipyn o drilobeit ffosiledig yng ngrisial plastig perfaith y cyfryngau.
Tybed a gaf fod mor hy ag awgrymu i Robat Gruffudd mai'r cynganeddwyr ifanc ym 1986 yw'r
gwir feirdd answyddogol? Do, fe newidiodd pethau.
O'r Faner, 10.8.91
Trasiedi Tseina yw nad yw Deng Xiao Ping a'i ddilynwyr yn barod i dderbyn newid na
thraddodi'r awenau o un genhedlaeth i'r llall. Trasiedi canu gwerin Cymru heddiw yw ei fod
wedi'i biclo mewn finag a'i adael i fwydo mewn anghofrwydd.
"Fedrwch chi ddim aros yn llonydd" meddai rhywun rywdro, "oni bai eich
bod yn gelain." Yn wahanol i Iwerddon (a bron pob gwlad lleiafrifol arall y gwn i
amdani) mae Cymru wedi gwadu ei thras gerddorol gan droi at efelychu cerddoriaeth
Americanaidd-Seisnig a cheisio rhoi ffurff Gymreig ar honno. Ceisio hefyd greu "scene
roc" Gymreig heb ei seilio ar ddoe. Methwyd a phoblogeiddio jigiau, riliau, a
chaneuon gwerin Cymru, er holl ymdrechion dechrau'r Wythdegau. Beth aeth o'i le?
Canolbwyntiwyd ar ail-adrodd traddodiad yn hytrach nag adeiladu ar draddodiad, hynny yw,
canu Hen Ferchetan (a'i llabuddio) yn hytrach na chreu caneuon newydd yn yr idiom Geltaidd
/ werinol. Heb gyfoesedd, symud, newid a'r elfen greadigol, y mae popeth yn statig. Yn
farw. Hyn oedd wrth wraidd trasiedi Sgwar Tiananmen y llynedd.... O aros yn llonydd, heb
gyfoesedd, heb arbrofi a heb fetamorffosis, waeth inni ei phiclo (y Gymraeg) yn yr
Ugeinfed Ganrif.
Barddas, Hydref 1991
(ateb cwestiwn 2) ... Ymgyrraedd at ganu fy nghan fy hun a wneuthum fel y dywedais
uchod. Os oedd hynny'n golygu dymchwelwaliau ieithyddol ac ambell dabw, gorau oll.
Credaf, i ateb dy gwestiwn cyntaf, fod y gynghanedd yn hollol gyfoes gan y gellir
cynganeddu pob gair newydd a dderbynnir gan yr iaith. Yr unig wal sydd bellach heb ei
dymchwel yw'r arferiad ceidwadol o beidio a defnyddio tafodiaith, fel pe bai tafodiaith
heb fod yn ddigon mawreddog i Awdl! Rwy'n siwr y daw'r dydd...
Peth digon hawdd yw defnyddio geiriau bob-dydd mewn englyn digri. Ond os yw'r bardd am
fod yn onest a fo'i hun ac yn ddiragrith, yna dylai allu cofleidio'r iaith lafar a'r iaith
lenyddol, boed hynny mewn cywydd, mewn awdl, mewn emyn neu mewn ga^n Reggae... Mae 'na ryw
ddeuoliaeth ryfedd iawn yn perthyn i ni yn ein defnydd o iaith wahanol ar gyfer achlysuron
gwahanol.
Mae'n bwysig fod bob iaith yn ddigon hyblyg i gwmpasu ac i gofleidio geirfa'r oes. Heb
yr ystwythder hwn, waeth i ni ei phiclo mewn pot jam a'i gadael ar y silff-ben-tan. Ac
felly'r gynghanedd hithau, heb ei hymestyn a'i datblygu ni fydd yn ddim mwy na
nionyn-finag di-wraidd a difywyd.
Barddas, Mehefin 1994
Os mai Diplodocws wedi'i ffosilieiddio yd Donald Evans, yna ET estron o'r blaned
Viva-la-Doler ydi Iwan Llwyd. Y naill heb symud o'i unfan ers 135miliwn o flynyddoedd a'r
llall yn adlewyrchiad o ryw ffordd arall, ddiarth o fyw. Dau begwn; ond nid dyma'r unig
ddewis.
Fe drodd y gastropod yn bysgodyn nid drwy ddatblygiad estronol ond drwy esblygiad. Fel
hyn yn unig y cadwn ein hunaniaeth fel cenedl. Ac mae metamorffeiddio'r gynghanedd yn rhan
hanfodol o'r cadwraeth hwn. Tristwch S4C hithau fel y dywedais rai misoedd yn ol yn Golwg
yw ei hanmallu i esblygu'n naturiol. Datblygu a wna gan adlewyrchu'r ffordd
Americanaidd-Seisnigaidd o fyw. Tristwch crefydd Cymru heddiw yw iddi aros yn ei hunfan yn
hytrach nag esblygu. Dau begwn a thynged y ddau yr un fath: peidio a bod.
Oddi fewn y daw pob esblygiad - er bod iddo ddylanwadau allanol - a thrwy arbrofi a'n
traddodiadau Cymreig y daw. A thynged esblygiad yw parhad, parhad bywyd, parhad yr
amrywiaeth. Viva la esblygiad!
Barddas, Chwefror, 1997
Erthygl yn Barddas, Chwefror, 1997: Rhai Camsyniadau ar Drothwy Mileniwm Tri
Dwi'n cytuno efo trwch yr hyn a ddywed Iwan Llwyd yn Rhifyn Tachwedd o Barddas am y
cyfryngau. Ond mae'r gair 'cyfryngau' yn golygu llawer iawn mwy na hyn. Perthyn i'r
Ddelwedd Fawr mae 'cyfryngau' Iwan; y cyfryngau corfforaethol, traddodiadol fatha'r
teledu, y radio a'r papurau newydd. Mae effaith dyddiol y cyfryngau hyn arnom yn affwysol
o gryf ac wedi camliwio llawer ar ein syniadau.
Cyfrwng arall na soniwyd amdano, fodd bynag* yw archdraffordd wybodaeth y We a'i
phriffyrdd cyfochrog megis Post-E, BBS (byrddau bwletin neu fforymau)a'r grwpiau newyddion 'DefnyddRwyd'. 'Da i ddim mor
bell a galw Iwan yn Amish nac yn Lydiad, eto! Gogoniant y Rhyngrwyd yw mai ni'r gwylwyr,
hefyd, yw'r golygyddion, y pobol camra, yr actorion a'r anarchwyr. Gall unrhyw un gyfranu
er enghraifft i Grwp-Newyddion Cymraeg y Defnyddrwyd (a phob grwp arall), nid llyfwyr
tinau materol a dinasyddion unffurf y Ddelwedd Fawr yn unig.
Mae'r nifer o bobol sydd ar y Rhwyd yn dyblu bob tua pedwar mis ac mae'r gost o fynd
arni'n gostwng bron yn ddyddiol. Cyn bo hir bydd gan bawb yn y 'gwledydd datblygedig'
Rwyd, a byddwn yn prynu nwyddau, yn llythyru, yn syrffio ac yn pleidleisio drwyddi, ynddi
a throsti! Y ddemocratiaeth eithaf! Yr unigolyn yn AS, yn Brif Weinidog ac yn Llywodraeth
ynddo'i hun! Mae hyn yn dymchwel y waliau heb swn rhyfeloedd, y waliau hynny sy'n gwahanu
cenedl a chenedl ac yn y pen-draw yn dileu'r angen am gyngor Sir a Llywodraeth Ganolog. Ar
y Rhwyd, mae pawb fwy neu lai ar yr un statws gymdeithasol. Tra bod dyn yn rhydd i feddwl
drosto'i hun, yn rhydd i benderfynu yn ol ei ddoethineb ei hun, mae'r Rhwyd yn offeryn
pwerus iawn i bob lleiafrif, ac i leiafrifoedd o fewn lleiafrifoedd! Ni fydd angen
dinasoedd o swyddfeydd canolog (oherwydd sefydlu telefythynod ayb) ond yn hytrach gwelwn
ailboblogi cefn gwlad, neu a ddylwn i ddweud - ecsodus o Seisnigrwydd i'r hyn sy'n weddill
o'r Fro Gymraeg. Dyna i chi gamsyniad arall, ynte? Fod y Gymraeg yn ffynu! Chreda i fawr!
Efallai fod Welsh y teledu a'r radio'n ffynu, ond nid felly'r Gymraeg naturiol. Does na
ddim lle iddi esblygu ar y teledu, datblygu y mae a hyny'n gwbwl anaturiol. Mae'r
cyfryngau 'traddodiadol' wedi ein cyflyru i gredu fod popeth yn dda hyd yn oed yng
Nghadarnleoedd y Gymraeg! Hanfod 'esblygiad' ydyw'r unigolyn: genynau yr unigolyn yn newid
o un genhedlaeth i'r llall. Mae'r Rhwyd yn llawer mwy unigol na chyfryngau torfol,
traddodiadol Iwan.
Tristwch y cyflyru hwn sydd wrth wraidd camsyniad arall: y camsyniad bod bardd
poblogaidd o reidrwydd yn fardd gwych, bod actor poblogaidd opera sebon yn actor gwych neu
fod chwareuwr pel-droed sy'n chwarae i'r galeri yn bel-droediwr gwych. Nid o reidrwydd.
Dyma ydi tristwch y teledu: ei allu i fanipiwleiddio meddyliau pobol fel ac i greu ei
ddiwylliant ei hun yn hytrach nag adlewyrchu diwylliant byw, real, gonest. Tydy awduro
digidol, fodd bynnag, ddim yn atebol i neb, nac yn ceisio bod yn boblogaidd a gall unrhyw
berson fynd ati, nid y detholedig rai yn unig.
Rhyfedd iawn, yn ddiweddar, oedd clywed rhywun yn datgan nad y llyfr fydd cyfrwng y
dyfodol ond y fideo! Mae'r diwydiant meddalwedd, eleni, yn gwario dwywaith cymaint o arian
ar ddatblygu eu cynyrch ag y mae'r byd seliwloid yn ei wario ar ffilm! A gogoniant
meddalwedd, wrth gwrs, yw ei elfen rhyngweithiol. Nid cyfrwng unochrog-unffordd mohono.
Hyd yma, tydy Java, Microsoft a thyrau eraill y Brawd Mawr ddim wedi monopoleiddio'r
Rhwyd. Mae Osmosis yn bodoli, mae ethos yr Oes Newydd yno'n sicir ac mae digon o le i lais
yr unigolyn, i gariad ac i barch. Fedrwch chi ddweud yr un peth am y cyfryngau
traddodiadol?
Dwn im am faint y pery'r rhyddid hwn ar y Rhwyd cyn i Murdoch, y CIA a'r IMF
fanipiwleiddio'r cyfan gan stwffio'r rebel i siwt o goncrit; rhywbeth tros dro ydy pob
chwyldro ac fe gyll ei newydd-deb a'i ryddid yn sydyn iawn. Neu'n hytrach fe'i prynir- ac
fe'n cyflyrir ninau yn y broses. Ond ar hyn o bryd, beth bynag, dawnsiwn yn acrobatig, yn
rhydd o'r diwedd ar We bregus y bore olaf.
Mae Iwan yn mynd rhagddo i son am y 'streic'. Ers pum mlynedd, bellach, dwi wedi
gwrthod pob cyfweliad ar Radio Cymru ac S4C. Fy ateb i bob gwahoddiad yw fod y ddwy sianel
yn anigonol, yn anghyflawn, yn faterol ac yn Anghymreig. Yr unig eithriad i hyn fu Talwrn
y Beirdd, un o'r ychydig berlau prin. Mi wrthoda ina hon os oes rhaid, ond onid gwell
fyddai ei thrysori a'i chofleidio gan ymwrthod a gweddill y giwed, ymwrthod a phob rhaglen
arall nes y ceir dwy sianel Gymraeg gyflawn. Mae angen i ni gefnogi pob cyfrwng, gan
gynwys Radio Cymru ac S4C, wrth gwrs, ond mae, angen, hefyd, i rai ohonom sefyll yn ol
oddi wrthynt, yn rhydd o'u gafael cyflyrol, yn anibynol-wrthrychol.
Ond eto, mae hi mor anodd gwrthod doler neu ddau yn tydi?
I gloi, mae'n rhaid i mi son am ddau gamsyniad erchyll a goleddir gan rai ac sy'n
deillio o lwyfan-roc S4C a Radio Cymru; yn gyntaf, y rhagdyb neu'r camdyb fod yn rhaid
defnyddio geiriau Saesneg i fod yn ddigri. Gair Cymraeg ydy pot-jam, ond gair Saesneg ydy
'calculator' (fel mae pob plentyn ysgol o Gymro yn ei wybod!) Gair Cymraeg ydy 'acrobat'
ond nid felly 'telefishyn'! Dylanwad rhagleni fel 'Heno' sy'n creu'r ffasiwn yma? Ac yn
ail, y ffasiwn ddiweddaraf o gynganeddu'n Saesneg, wel call a dawo! Y camsyniad fod yn
rhaid plesio cenedl arall i gael eich derbyn gan eich pobol eich hun.
Ydy, mae 1984 wedi pasio a 'da ninau eisioes wedi ein moldio yn ddinasyddion unffurf y
Ddelwedd Fawr.
|